|
Coginio Cartref - Croeso!
Mae gweithdai Coginio Cartref yn addas i fechgyn a merched ysgol uwchradd. Cynhelir y dosbarthiadau yng ngegin Fferm Allt-y-Gôg, Felin Wen, Caerfyrddin.
Gwersi anffurfiol sy'n cael eu cynnig, ble gall pobl ifanc ddysgu sgiliau sylfaenol coginio wrth iddynt ddatblygu hyder yn y gegin. O fewn dim amser byddant yn gallu paratoi prydau a phwdinau, a chacenau i'r teulu cyfan!
Wrth ddefnyddio llysiau, pherlysiau a ffrwythau or ardd, bydd yna thema tymhorol iawn i'n reseitiau.Yn aml, daw ein llysiau a'n ffrwythau o ardd Allt-y-Gôg, a bydd y plant yn gyfrifol am eu casglu a'u paratoi.
Bydd y plant yn dod i fwynhau dysgu am y cynyrch gwahanol a sut i'w coginio mewn awyrgylch hapus, anfurfiol â chartrefol.
Pob wythnos bydd y cynnyrch fydd wedi'u goginio, yn gacennau, yn fara, jam neu 'chutney' ar gael i fynd adref, ynghyd â rysait i'w osod mewn ffeil.
|